In lieu of an abstract, here is a brief excerpt of the content:

3 EDITION Additional section found at the beginning of the Life in Aberystwyth, National Library of Wales, Peniarth MS 27ii The Life of Mary Magdalene Buchedd Mair Vadlen Mair Vadlen a oydd mor vvcheddol ac i karodd Krist hi yn vwyaf o’r merched, yn nesa at Vair i vam, ac oherwydd hynny pob Kristion a ddyly anrrydeddv Duw a Mair Vadlen. Y hi gynta yn amser gras a gymerth ydiveirwch ac a wnayth benyd am i chamwedde. A’r Arglwydd Iesu Grist a gynhiadodd iddi ras, a thrvgaredd, a meddevain[t] o’i ffechode, yr honn a wnaythbwyd yn ysbekdal i’r holl bechadvriaid i ddangos vddynt o chymerant adiveirwch a gwneuthvr penydiav am i pychodav, i kant ras a thrvgared Mair Vadlen. [I Vair Vadlen] ir oydd dad yr hwnn a elwid Sirws; i mam hi a elwid Eucharia a’r rain a ddoyth o wayd brenhinedd. Sirws i thad a oydd arglwydd mawr o vywyd arglwyddieth a oydd iddo yng­ hayr Selem yr hwnn a ydewis ef y’w vab Lasar. Ac arglwydd­ ieth arall a oydd iddo yngwlad a elwid Bethania a honno a roys i Vartha i verch. A Magdela i gasdell, a chwbl o’r arglwyddieth 90 1 5 10 15 EDITION 91 honno, a roys i Vair Vadlen i verch, ac o’r kasdell hwnnw i kavas i henw ac am hyn[n]y i gelwid hi Mair Vadlen. Ar y wlad honno a’r kastell i bu hi arglwyddes. Ac val i may llawer o lyvre yn mynegi, pann ddylasai Joan y vengylwr priodi Mair Vadlen, yna ir erchis Krist i Joan i ga[n]lyn ef a chadw i vorwyndod; ac velly i gwnayth ef. Ac am hyn[n]y y digiodd Mair Vadlen yn vawr ac yr ymroddes i’r saith bechod marwol. Mynych i gweled Krist yn troi y pechaduriaid mwyaf yn ore i bvchedd a ffan weles yr Iesv yn amser ac yn dda gantho ef, ef a roys ras i Vair Vadlen i gydnabod a hi e hvn, ac yna i kymerth hi ydiveirwch am i chamweithredoydd. A ffan glybv hi vod Iesu ar wahawdd ynhy Simon Liper, vn o’r Sarsiniaid, hi a gymerth vlwch ac eli, yr hwnn ir oydd bobl y wlad honno yn ymarver ac ef o blegid maint gwres yr haul, ac a ayth i’r ty ir oydd Iesu. Ac ni allodd hi rrac kywilydd ddyvod gar bron Krist, namyn myned o’r tv kefn iddo, a chymrvd i drayd yn i dwylo, ac o orymder ydiveirwch o’i chalonn wylo a wnayth, a a’i dagre o ydiveirwch golchi trayd Iesu, ac a gwalld i ffen sychv i drayd, ac o gwbl gariad o’i chalonn kvsanv i drayd. Ac a’r eli o’r blwch i elio ef a wnayth heb ddywedud vn gair, lle i klywe neb namyn o wyreiddion i chalon[n] krio am drvgared. A gwnevth eiddvned i Krist na thresbase vyth. Iesv Grist yma a dostvriodd wrthi ac a’i glanhadd hi o’i saith bechod. Yn yr rain idd oydd saith gythrel a ffawb yn gweled ar a oydd yno ac ef a vaddevodd iddi i holl bechodav. Ac am ryddhav o Grist y hi o gaythiwed kyth­ revliaid, hi a gymerth gimin kariad yn Grrist ac i gydewis i holl arglwyddiayth ac kylhynodd ef o wir hoffder arnno. Pann ddioddevodd ef, gwedi ffo i holl ddisgyblon oddi wrtho rrac ofn i marvolayth, nid ymadewis Mair Vadlen vyth ac Iesv hyd oni rroddes hi, gidac eraill, ef yn i vedd. A ffryd na lavasai rai eraill vyned ynghyvyl y bedd rrac y marchogion oydd yn i gadw, nid yr iachodd hi i’r ofn i marvolayth, namyn myned yn y tyw­ yll a’r blwch o’r eli i elio i gorff. Ac velly y karai hi y Iesu yn vyw ac yn varw. Ac am hynny Krist, ir mwyn Mair Vadlen, a iachaodd 20 25 30 35 40 45 [13.59.36.203] Project MUSE (2024-04-16 06:02 GMT) 92 EDITION Martha i chwayr hi o glwy’r merched yr hwnn i bv hi saith myl­ yned yn i odde. Hevyd, ir kariad ar Vair Vadlen, ef a godes Krist Lasar i brawd o varw yn vyw yr hwnn a vv bedwar diwyrnod mewn bed. A ffan gyvodes Krist o varw yn vyw wedi i varw, yr ymddangoses ef i Vair Vadlen yn gorfforol. Aberystwyth, National Library of Wales, Llanstephan MS...

Share